
Dyma hanes Joseff o’i flynyddoedd cynnar yng ngwlad Canaan hyd at yr adeg cafodd ei benodi i fod yn rheolwr dros holl wlad yr Aifft.
Mae’r hanes wedi ei rannu i 8 pennod gyda dewis o 3 adnod i’w dysgu a 4 sleid ar gyfer cwis.
Downloads
Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi hanes bywyd Moses o’i enedigaeth yn yr Aifft hyd nes iddo glywed llais Duw yn ei alw o fflamau’r berth yng
ngwlad Midian. (Exodus 1:6 – 3:10). Mae’n cynnwys dwy sleid ar gyfer cynnal cwis.
Downloads
Cyflwyniad byr o saith sleid yn cyflwyno hanes Duw yn galw y bachgen Samuel
Downloads
Mae`r cyflwyniad hwn yn rhoi crynodeb o hanes genedigaeth Iesu Grist fel mae wedi ei gofnodi yn efengyl Mathew a Luc. Mae hefyd yn cynnwys adnod i ddysgu a 4 sleid ar gyfer cwis.
Downloads
Saith sleid liwgar a deniadol yn cyflwyno dameg Y Ddafad Golledig (Luc 15) a dysgeidiaeth Iesu am y Bugail Da (Ioan 10). Mae`r cyflwyniad hwn yn cynnwys adnod i ddysgu.
Downloads
Dyma hanes am Iesu yn bwydo tyrfa o dros 5000 o bobl. Mae`r cyflwyniad hwn yn cynnwys adnod i ddysgu ac un sleid ar gyfer cwis.
Downloads
DEUNYDD NEWYDD - Ceir yma gyflwyniad cyffrous ar hanes Saul o Darsus a'i dröedigaeth ryfeddol ar y ffordd i Ddamascus. Mae bywyd Saul yn newid yn llwyr o fod yn un sy'n erlid Cristnogion i fod yn ddisgybl ffyddlon i Iesu Grist, a'r cenhadwr mwyaf a welodd y byd erioed. (Actau 9:1-27).
Downloads